Quantcast
Channel: OPAL - Cofnod
Viewing all articles
Browse latest Browse all 8

Cofnod

$
0
0

English

Mae Cofnod yn un o dri phartner yng Nghymru a ymunodd â phartneriaeth OPAL yn 2014 wrth i ni ymestyn i bob cwr o'r DU.

Wildlife enthusiasts going pond dippingYnglŷn â Cofnod

Cofnod yw Canolfan Cofnodion Lleol Gogledd Cymru (CCLl). Mae'n cynnal cronfa ddata byd natur fwyaf y rhanbarth ac mae'n rhan o rwydwaith Cymru gyfan a rhanbarthol cyntaf y DU o CCLlau.

Ei nod yw gweithio â chofnodwyr bywyd gwyllt  lleol i gynorthwyo gyda chasglu a rheoli eu data, a galluogi i'r cofnodion hynny fod yn fwy hygyrch i'r rhai sydd angen eu defnyddio ar gyfer gwneud penderfyniadau.

Mae wedi ei leoli yn un o ardaloedd cyfoethocaf Cymru o ran bywyd gwyllt ac mae'n defnyddio dulliau megis System Gofnodi Ar-lein unigryw er mwyn annog pobl i rannu eu harsylwadau o fywyd gwyllt.

Cofnod ac OPAL

Amcan Cofnod yw darparu cyfle i bobl Gogledd Orllewin Cymru sicrhau gwell ymwybyddiaeth o'u hamgylchedd lleol drwy raglen OPAL. Byddwn yn cyflawni hyn wrth i'n gwyddonwyr cymunedol weithio ag ysgolion a grwpiau cymunedol, gyda
phwyslais neilltuol ar gymunedau gwledig.

YouTube logoTwitter logo

Mae OPAL yn cynnig cyfle unigryw i Cofnod weithio yn y gymuned a meithrin ymdeimlad o well dealltwriaeth o'r amgylchedd drwy adnoddau OPAL, ac mae hefyd yn gobeithio annog mwy o bobl i sylwi ar fywyd gwyllt yn eu hardaloedd a chofnodi'r hyn maent yn ei weld gyda Cofnod neu gynlluniau cofnodi eraill.

Dolenni

Ewch i wefan Cofnod

Cysylltu

opal@cofnod.org.uk

 

Tags: 


Viewing all articles
Browse latest Browse all 8

Trending Articles